Datguddiad Ioan

Oddi ar Wicipedia
Y Beibl
Y Testament Newydd

Datguddiad Ioan neu Llyfr y Datguddiad (talfyriad: Dat.) yw'r llyfr olaf yn y Testament Newydd a'r Beibl Cristnogol awdurdodedig. Mae ar ffurf proffwydoliaeth a briodolir i Sant Ioan, un o apostolion Crist yn y Beibl (nid yw pawb yn derbyn hyn). Mae'n llyfr apocalyptaidd sy'n cynnwys saith weledigaeth symbolaidd iawn sy'n olrhain hanes yr eglwys Gristnogol o'i dechreuad hyd at Ddydd y Farn ar ddiwedd y byd. Mae'n bosibl i'r llyfr gael ei ysgrifennu fel ymateb i'r erledigaeth ar Gristnogion yn nheyrnasiad yr ymerodr Domitian. Credir iddo gael ei gyfansoddi gan Ioan ar ynys Patmos ar ôl iddo gael ei alltudio yno yn 95. Yn y llyfr mae'n ysgrifennu i saith eglwys gwahanol i'w hannog.

'Putain Babilon' a'r 'Anghenfil', darlun yn nhestun llawysgrif Bamber (Yr Almaen, tua 1000 OC) o lyfr Ddatguddiad Ioan.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.